Deuteronomy 4:46 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tu yma i'r Iorddonen, yn y dyffryn ar gyfer Beth‐peor, yng ngwlad Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, yr hwn a drawsai Moses a meibion Israel, wedi eu dyfod allan o'r Aifft:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
pan oedden nhw'n dal ar ochr ddwyreiniol yr Afon Iorddonen. Roedden nhw yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor — sef yr ardal oedd yn arfer cael ei rheoli gan Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon. Nhw wnaeth Moses a pobl Israel ymosod arnyn nhw pan ddaethon nhw allan o'r Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
pan oeddent y tu hwnt i'r Iorddonen yn y dyffryn gyferbyn Beth-peor yng ngwlad Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon ac a orchfygwyd gan Moses a'r Israeliaid ar eu taith allan o'r Aifft.