Deuteronomy 4:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt: oblegid hyn yw eich doethineb, a'ch deall chwi, yng ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddiau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, cadwch nhw. Dilynwch nhw. A pan fydd pobl yn dysgu amdanyn nhw, byddan nhw'n dweud, ‘Mae'n wir, mae pobl y wlad yma yn ddoeth a deallus.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofalwch eu cadw, oherwydd dyma fydd eich doethineb a'ch deall yng ngolwg y bobloedd; a phan glywant hwy y deddfau hyn, byddant yn dweud, "Yn wir pobl ddoeth a deallus yw'r genedl fawr hon."