Deuteronomy 5:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th ych, na'th asyn, nac yr un o'th anifeiliaid, na'th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a'th forwyn, fel ti dy hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD. Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma — ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith; dim hyd yn oed dy ychen a dy asyn, nac unrhyw anifail arall; nac unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti. Mae'r gwas a'r forwyn i gael gorffwys fel ti dy hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th ych, na'th asyn, nac un o'th anifeiliaid, na'r estron sydd o fewn dy byrth, er mwyn i'th was a'th forwyn gael gorffwys fel ti dy hun.