Deuteronomy 5:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedasoch, Wele, yr ARGLWYDD ein DUW a ddangosodd i ni ei ogoniant, a'i fawredd; a'i lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddiw y gwelsom lefaru o DDUW wrth ddyn, a byw ohono.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi dangos ei ysblander rhyfeddol i ni, a dŷn ni wedi ei glywed e'n siarad o ganol y tân. Dŷn ni wedi gweld bod pobl ddim yn marw'n syth pan mae Duw yn siarad â nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedasoch, "Dangosodd yr ARGLWYDD ein Duw inni ei ogoniant a'i fawredd, ac fe glywsom ei lais o ganol y tn; heddiw yr ydym yn gweld y gall bod meidrol fyw er i Dduw lefaru wrtho.