Deuteronomy 5:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthyf; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyt: da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Roedd yr ARGLWYDD wedi'ch clywed chi'n siarad hefo fi, a dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dw i wedi clywed beth mae'r bobl wedi ei ddweud wrthot ti. Maen nhw'n iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd yr ARGLWYDD y geiriau a lefarasoch wrthyf, dywedodd, "Yr wyf wedi clywed geiriau'r bobl hyn pan oeddent yn llefaru wrthyt; ac y mae'r cyfan a ddywedant yn wir.