Deuteronomy 6:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel yr ofnech yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw ei holl ddeddfau, a'i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a'th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch chi'n dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw drwy gadw ei reolau a'i orchmynion — chi, eich plant, a'ch wyrion a'ch wyresau. Cadwch nhw tra byddwch chi byw, a cewch fyw yn hir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
er mwyn i chwi ofni'r ARGLWYDD eich Duw a chadw yr holl ddeddfau a gorchmynion yr wyf yn eu rhoi i chwi a'ch plant a phlant eich plant holl ddyddiau eich bywyd, ac er mwyn estyn eich dyddiau.