Deuteronomy 7:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a'th gâr, ac a'th fendithia, ac a'th amlha di; ac a fendiga ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir di, dy ŷd, a'th win, a'th olew, a chynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid, yn y tir y tyngodd efe wrth dy dadau, ar ei roddi i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd e'n eich caru a'ch bendithio chi, ac yn rhoi lot o blant i chi. Bydd eich cnydau'n llwyddo, yr ŷd, y sudd grawnwin a'r olewydd; bydd eich gwartheg yn cael lloi, a'ch preiddiau yn cael lot o rai bach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn eich caru, yn eich bendithio ac yn gwneud ichwi gynyddu; bydd hefyd yn bendithio'ch plant a chynnyrch eich tir, eich u375?d, eich gwin a'ch olew, ac epil eich gwartheg a'ch praidd yn y tir y tyngodd i'ch hynafiaid y byddai'n ei roi ichwi.