Deuteronomy 7:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd yr ARGLWYDD a dynn oddi wrthyt ti bob gwendid, ac ni esyd arnat ti yr un o glefydau drwg yr Aifft, y rhai a adwaenost: ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr ARGLWYDD yn eich amddiffyn rhag salwch, a fyddwch chi ddim yn dioddef o'r heintiau wnaeth daro'r Aifft. Eich gelynion fydd yn dioddef o'r pethau yna.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe dry'r ARGLWYDD bob clefyd oddi wrthych, ac ni fydd yn dwyn arnoch chwi yr un o'r heintiau difrifol a brofasoch yn yr Aifft, ond yn eu gosod ar yr holl rai sy'n eich casu.