Deuteronomy 7:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Difetha gan hynny yr holl bobloedd y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti: nac arbeded dy lygad hwynt, ac na wasanaetha eu duwiau hwynt; oblegid magl i ti a fyddai hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Rhaid i chi ddinistrio'r bobl fydd yr ARGLWYDD yn eich galluogi chi i'w concro nhw. Peidiwch teimlo trueni drostyn nhw, a peidiwch addoli eu duwiau, neu bydd hi ar ben arnoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych i ddifa'r holl bobloedd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chwi; nid ydych i dosturio wrthynt nac addoli eu duwiau, oherwydd byddai hynny yn fagl ichwi.