Deuteronomy 7:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid, a'r arwyddion, a'r rhyfeddodau, a'r llaw gadarn, a'r braich estynedig, â'r rhai y'th ddug yr ARGLWYDD dy DDUW allan: felly y gwna'r ARGLWYDD dy DDUW i'r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Defnyddiodd ei rym a'i nerth, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol i ddod â chi allan o'r Aifft. A bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud yr un fath eto i'r bobl yma dych chi'n eu hofni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelsoch 'ch llygaid eich hunain y treialon mawr, yr arwyddion a'r rhyfeddodau, ac fel y daeth yr ARGLWYDD eich Duw chwi allan llaw gadarn a braich estynedig; felly y gwna'r ARGLWYDD eich Duw i'r holl bobloedd yr ydych yn eu hofni.