Deuteronomy 7:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD dy DDUW a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o'th flaen di, bob ychydig ac ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd e, y Duw sy'n eich arwain chi, yn eu gyrru nhw i ffwrdd o dipyn i beth. Fydd e ddim yn gadael i chi gael gwared â nhw i gyd ar unwaith, neu fyddai dim digon o bobl yna i gadw niferoedd yr anifeiliaid gwylltion i lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gyrru allan y cenhedloedd hyn o'ch blaenau fesul ychydig; ni fyddwch yn eu difa ar unwaith, rhag i'r anifeiliaid gwyllt fynd yn rhy niferus ichwi.