Deuteronomy 7:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i'r ARGLWYDD dy DDUW: yr ARGLWYDD dy DDUW a'th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o'r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n bobl sydd wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae wedi eich dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych chwi yn bobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw. Y mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eich dewis o blith yr holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear, i fod yn bobl arbennig iddo ef.