Deuteronomy 7:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwybydd gan hynny mai yr ARGLWYDD dy DDUW sydd DDUW, sef y DUW ffyddlon, yn cadw cyfamod a thrugaredd â'r rhai a'i carant ef, ac a gadwant ei orchmynion, hyd fil o genedlaethau;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly peidiwch anghofio mai'r ARGLWYDD eich Duw chi ydy'r unig dduw go iawn. Mae e'n Dduw ffyddlon, a bydd e bob amser yn cadw'r ymrwymiad mae wedi ei wneud i'r rhai sy'n ei garu ac yn gwneud beth mae e'n ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly deallwch mai'r ARGLWYDD eich Duw sydd Dduw; y mae'n Dduw ffyddlon, yn cadw cyfamod a ffyddlondeb hyd fil o genedlaethau gyda'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion,