Deuteronomy 8:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a'th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a'r sydd yn dyfod allan o enau yr ARGLWYDD y bydd byw dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Profodd chi drwy wneud i chi fynd heb fwyd, ac wedyn eich bwydo chi gyda'r manna (oedd yn brofiad dieithr iawn!) Roedd e eisiau i chi ddeall mai nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl angen i fyw. Maen nhw angen gwrando ar bopeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Darostyngodd chwi a dwyn newyn arnoch; yna fe'ch porthodd manna, nad oeddech chwi na'ch hynafiaid yn gwybod beth oedd, er mwyn eich dysgu nad ar fara yn unig y bydd rhywun fyw, ond ar bopeth sy'n dod o enau'r ARGLWYDD.