Deuteronomy 9:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o'r Aifft: ciliasant yn ebrwydd o'r ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd, ‘Dos yn ôl i lawr ar unwaith, mae'r bobl wnest ti eu harwain allan o'r Aifft wedi pechu! Maen nhw wedi troi cefn ar y ffordd wnes i ei rhoi iddyn nhw'n barod, ac wedi gwneud delw o fetel tawdd.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Cod, dos i lawr ar unwaith o'r mynydd hwn, oherwydd y mae dy bobl, a ddygaist allan o'r Aifft, wedi gwneud peth llygredig; y maent wedi rhuthro i droi o'r ffordd a orchmynnais iddynt, ac wedi gwneud iddynt eu hunain ddelw dawdd."