Deuteronomy 9:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr ARGLWYDD eich DUW: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o'r ffordd a orchmynasai yr ARGLWYDD i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fi'n gweld eich bod chi wedi pechu go iawn yn erbyn yr ARGLWYDD a gwneud eilun ar siâp tarw ifanc. Roeddech chi wedi troi i ffwrdd mor sydyn oddi wrth beth oedd e'n ei ofyn gynnoch chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais eich bod wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw trwy wneud i chwi eich hunain ddelw dawdd ar ffurf llo, a rhuthro i droi o'r ffordd a orchmynnodd yr ARGLWYDD ichwi.