Deuteronomy 9:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Canys ofnais rhag y soriant a'r dig, trwy y rhai y digiodd yr ARGLWYDD wrthych, i'ch dinistrio chwi.) Eto gwrandawodd yr ARGLWYDD arnaf y waith honno hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gen i wir ofn fod yr ARGLWYDD wedi digio mor ofnadwy hefo chi y byddai e'n eich dinistrio chi'n llwyr. Ond dyma fe'n gwrando arna i unwaith eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddwn yn ofni'r dig a'r cynddaredd yr oedd yr ARGLWYDD yn eu dangos tuag atoch gan feddwl eich difa, ond gwrandawodd yr ARGLWYDD arnaf y tro hwn eto.