Deuteronomy 9:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan anfonodd yr ARGLWYDD chwi o Cades‐Barnea, gan ddywedyd, Ewch i fyny, a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi, yr anufuddhasoch i air yr ARGLWYDD eich DUW: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A pan wnaeth e eich anfon chi o Cadesh-barnea, a dweud wrthoch chi, ‘Ewch, a chymryd y tir dw i wedi ei roi i chi,’ dyma chi'n tynnu'n groes i'r ARGLWYDD eto, a gwrthod ei gredu na gwneud beth roedd e'n ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna pan anfonodd yr ARGLWYDD chwi o Cades-barnea a dweud wrthych, "Ewch i fyny i feddiannu'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi", gwrthryfela a wnaethoch yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a gwrthod ymddiried ynddo a gwrando ar ei lais.