Deuteronomy 9:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhag dywedyd o'r wlad y dygaist ni allan ohoni, O eisiau gallu o'r ARGLWYDD eu dwyn hwynt i'r tir a addawsai efe iddynt, ac o'i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i'w lladd yn yr anialwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does gen ti ddim eisiau i bobl yr Aifft ddweud, “Doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu mynd â'r bobl yma i'r wlad roedd e wedi ei haddo iddyn nhw. Aeth â nhw allan o'r Aifft am ei fod yn eu casáu nhw, ac am eu lladd nhw yn yr anialwch.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
rhag i drigolion y wlad y daethost hwy allan ohoni ddweud, 'Am ei fod yn methu mynd hwy i'r wlad a addawodd iddynt, ac am ei fod yn eu casu, y daeth yr ARGLWYDD hwy allan i'w lladd yn yr anialwch.'