Deuteronomy 9:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwybydd gan hynny heddiw, fod yr ARGLWYDD dy DDUW yn myned trosodd o'th flaen di yn dân ysol: efe a'u difetha hwynt, ac efe a'u darostwng hwynt o'th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr ARGLWYDD wrthyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wel, dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw fel tân sy'n difa popeth o'i flaen. Bydd e'n eu trechu nhw. Byddwch chi'n cymryd eu tir nhw, ac yn eu dinistrio nhw yn gyflym iawn, fel mae wedi dweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond deall di heddiw fod yr ARGLWYDD dy Dduw, sy'n croesi o'th flaen, yn dn ysol, ac y bydd ef yn eu difa a'u darostwng o'th flaen. Byddi dithau'n eu gyrru allan ac yn eu difa yn sydyn, fel yr addawodd yr ARGLWYDD wrthyt.