Deuteronomy 9:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o'r ARGLWYDD dy DDUW hwynt allan o'th flaen di, gan ddywedyd, Am fy nghyfiawnder y dygodd yr ARGLWYDD fi i feddiannu'r tir hwn: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn, y gyrrodd yr ARGLWYDD hwynt allan o'th flaen di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond ar ôl i'r ARGLWYDD eu gyrru nhw allan o'ch blaenau chi, peidiwch meddwl am funud ei fod e'n rhoi'r tir i chi am eich bod chi'n bobl mor dda! Na, mae e'n gyrru'r bobloedd yma allan o'ch blaenau chi am eu bod nhw'n gwneud pethau mor ddrwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi eu gyrru allan o'th flaen, paid dweud, "Daeth yr ARGLWYDD mi i feddiannu'r wlad hon oherwydd fy nghyfiawnder." Ond o achos drygioni'r cenhedloedd hyn y mae'r ARGLWYDD yn eu gyrru allan o'th flaen.