Deuteronomy 9:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Meddwl, ac nac anghofia pa fodd y digiaist yr ARGLWYDD dy DDUW yn yr anialwch: o'r dydd y daethost allan o dir yr Aifft, hyd eich dyfod i'r lle hwn, gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Cofiwch — peidiwch byth anghofio — sut wnaethoch chi ddigio'r ARGLWYDD eich Duw pan oeddech chi yn yr anialwch. Dych chi ddim wedi stopio gwrthryfela yn ei erbyn ers y diwrnod daethoch chi allan o'r Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cofia, a phaid ag anghofio, iti ennyn dig yr ARGLWYDD dy Dduw yn yr anialwch; yr wyt wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD o'r dydd y daethost allan o wlad yr Aifft nes iti ddod i'r lle hwn.