Ecclesiastes 1:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe fu eisoes yn yr hen amser o'n blaen ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Weithiau mae pobl yn dweud am rywbeth, “Edrychwch, dyma i chi beth newydd!” Ond mae wedi digwydd o'r blaen, ymhell yn ôl, o flaen ein hamser ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A oes unrhyw beth y gellir dweud amdano, "Edrych, dyma beth newydd"? Y mae'r cyfan yn bod ers amser maith, y mae'n bod o'n blaenau ni.