Ecclesiastes 10:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na felltithia y brenin yn dy feddwl; ac yn ystafell dy wely na felltithia y cyfoethog: canys ehediad yr awyr a gyhoedda y llais, a pherchen adain a fynega y peth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Paid hyd yn oed meddwl beirniadu'r brenin, na melltithio pobl gyfoethog yn dy ystafell wely. Gallai aderyn bach ddweud wrth eraill, neu ailadrodd beth ddwedaist ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Paid melltithio'r brenin yn dy feddwl, na'r cyfoethog yn dy ystafell wely, oherwydd gall adar yr awyr gario dy lais, a pherchen adain fynegi'r hyn a ddywedi.