Ecclesiastes 12:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ie, yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua y pren almon, ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich, ac y palla chwant: pan elo dyn i dŷ ei hir gartref, a'r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae gan rywun ofn uchder ac ofn mynd allan ar y stryd. Pan mae blodau'r pren almon yn troi'n wyn, y ceiliog rhedyn yn llusgo symud, a chwant rhywiol wedi hen fynd. Pan mae pobl yn mynd i'w cartref tragwyddol, a'r galarwyr yn dod allan ar y stryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
pan fydd pobl yn ofni llecyn uchel a pheryglon ar y ffordd; pan fydd y pren almon yn gwynnu, a cheiliog rhedyn yn ymlusgo'n feichus, a'i chwant heb ei gyffroi; pan fydd rhywun ar fynd i'w gartref bythol, a'r galarwyr yn crynhoi yn y stryd.