Ecclesiastes 2:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid, ni omeddwn hwynt: ni ataliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd; canys fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur; a hyn oedd fy rhan i o'm holl lafur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddwn i'n cael beth bynnag oedd yn cymryd fy ffansi. Roeddwn i'n gallu profi pob pleser, fel y mynnwn i. Roeddwn i'n mwynhau'r gwaith caled, a dyna oedd fy ngwobr i am fy ymdrech.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oeddwn yn cadw draw oddi wrth unrhyw beth a chwenychai fy llygaid, nac yn troi ymaith oddi wrth unrhyw bleser. Yn wir yr oeddwn yn cael llawenydd yn fy holl lafur, a hyn oedd fy nhl am fy holl waith.