Ecclesiastes 2:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwylo, ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur: ac wele, hyn oll oedd wagedd a gorthrymder ysbryd, ac nid oedd dim budd dan yr haul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna dechreuais feddwl am y cwbl roeddwn i wedi ei gyflawni, a'r holl ymdrech oedd wedi mynd i mewn i gael popeth oedd gen i — a dod i'r casgliad ei fod yn gwneud dim sens, a bod y cwbl fel ceisio rheoli'r gwynt. Beth mae rhywun yn ei ennill yn y pen draw?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, pan drois i edrych ar y cyfan a wnaeth fy nwylo a'r llafur yr ymdrechais i'w gyflawni, gwelwn nad oedd y cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt, heb unrhyw elw dan yr haul.