Ecclesiastes 2:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae dyn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog, yn synhwyrol, ac yn uniawn: ac y mae yn ei adael yn rhan i'r neb ni lafuriodd wrtho. Hyn hefyd sydd wagedd, a gorthrymder mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae rhywun yn gweithio'n galed, ac yn defnyddio'i holl ddoethineb a'i wybodaeth a'i allu i gael y cwbl, ac wedyn mae'n ei basio ymlaen i rywun sydd wedi gwneud dim i'w ennill. Dydy'r peth yn gwneud dim sens ac mae'n hollol annheg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r sawl a lafuriodd yn ddoeth a deallus a chyda medr yn gadael ei eiddo i un na lafuriodd amdano. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn flinder mawr.