Ecclesiastes 2:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ei holl ddyddiau sydd orthrymder, a'i lafur yn ofid: ie, ni chymer ei galon esmwythdra y nos. Hyn hefyd sydd wagedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim ond pryder a rhwystredigaeth drwy'r dydd, ac wedyn methu ymlacio yn y nos hyd yn oed! Dydy e'n gwneud dim sens!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae ei holl ddyddiau yn ofidus, a'i orchwyl yn boenus; a hyd yn oed yn y nos nid oes gorffwys i'w feddwl. Y mae hyn hefyd yn wagedd.