Ecclesiastes 2:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys i'r dyn a fyddo da yn ei olwg ef, y rhydd DUW ddoethineb, a gwybodaeth, a llawenydd; ond i'r pechadur y rhydd efe boen i gasglu ac i dyrru, i'w roddi i'r neb a fyddo da gerbron DUW. Hynny hefyd sydd wagedd, a gorthrymder ysbryd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Duw sy'n rhoi'r doethineb a'r gallu i fwynhau ei hun i'r sawl sy'n ei blesio. Ond dim ond yr holl drafferth o gasglu a phentyrru eiddo mae'r un sydd ddim yn ei blesio yn ei gael — a hynny i ddim byd yn y diwedd ond i'w basio ymlaen i rywun sydd yn plesio Duw! Mae'n anodd gwneud sens o'r cwbl — mae fel ceisio rheoli'r gwynt.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, y mae Duw yn rhoi doethineb, deall a llawenydd i'r sawl sy'n dda yn ei olwg, ond i'r un sy'n pechu fe roddir y dasg o gasglu a chronni ar gyfer yr un sy'n dda yng ngolwg Duw. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.