Ecclesiastes 2:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a ddarperais weision a morynion; hefyd yr oedd i mi gaethweision tŷ; ie, yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid, tu hwnt i bawb a fuasai o'm blaen i yn Jerwsalem:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Prynais weithwyr i mi fy hun — dynion a merched, ac roedd gen i weision eraill oedd wedi eu geni yn y tŷ brenhinol. Roedd gen i fwy o wartheg a defaid nac unrhyw un oedd wedi bod yn Jerwsalem o'm blaen i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
prynais gaethion, yn ddynion a merched, ac yr oedd gennyf weision wedi eu geni yn fy nhu375?; yr oedd gennyf fwy o wartheg a defaid nag unrhyw un a fu o'm blaen yn Jerwsalem;