Ecclesiastes 4:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly mi a ddychwelais, ac a edrychais ar yr holl orthrymderau sydd dan yr haul: ac wele ddagrau y rhai gorthrymedig heb neb i'w cysuro; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu, a hwythau heb neb i'w cysuro.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fi'n ystyried yr holl orthrwm sy'n digwydd yn y byd. Gwelais ddagrau y rhai sy'n cael eu gorthrymu, ond doedd neb yn eu cysuro nhw. Doedd neb i'w hachub nhw o afael y gorthrymwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Unwaith eto ystyriais yr holl orthrymderau sy'n digwydd dan yr haul. Gwelais ddagrau y rhai a orthrymwyd, ac nid oedd neb i'w cysuro; yr oedd nerth o blaid eu gorthrymwyr, ac nid oedd neb i'w cysuro.