Ecclesiastes 4:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae un yn unig, ac heb ail; ie, nid oes iddo na mab na brawd; ac eto nid oes diwedd ar ei lafur oll: ie, ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth; ni ddywed efe, I bwy yr ydwyf yn llafurio, ac yn difuddio fy enaid oddi wrth hyfrydwch? Hyn hefyd sydd wagedd, a dyma drafferth flin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhywun sydd ar ei ben ei hun yn llwyr — heb gymar na phlant na pherthnasau — ac eto'n gweithio'n ddi-stop, a byth yn fodlon gyda beth sydd ganddo. “Pam dw i'n gwneud hyn, ac amddifadu fy hun o fwynhad?” meddai. Dydy peth felly yn gwneud dim sens! Mae'n drist iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
rhywun unig heb fod ganddo na chyfaill, na mab na brawd; nid oes diwedd ar ei holl lafur, eto nid yw cyfoeth yn rhoi boddhad iddo. Nid yw'n gofyn, "I bwy yr wyf yn llafurio, ac yn fy amddifadu fy hun o bleser?" Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn orchwyl diflas.