Ecclesiastes 5:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin; ac efe a ennill fab, ac nid oes dim yn ei law ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna mae'n colli'r cwbl drwy ryw bwl o anlwc. Er ei fod wedi cael mab, does ganddo ddim i'w basio ymlaen i'r mab hwnnw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'r cyfoeth yn diflannu trwy anffawd flin, ac yntau, pan gaiff fab, heb ddim i'w roi iddo.