Ecclesiastes 5:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele y peth a welais i: da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed, a chymryd byd da o'i holl lafur a lafuria dan yr haul, holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes DUW iddo: canys hynny yw ei ran ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim ond un peth dw i'n ei weld sy'n dda ac yn llesol go iawn: fod rhywun yn bwyta ac yn yfed ac yn mwynhau ei waith caled yn y byd yma am yr ychydig amser mae Duw wedi ei roi iddo. Dyna ei wobr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r hyn a welais: y mae'n dda a gweddus i ddyn fwyta ac yfed, a chael mwynhad o'r holl lafur a gyflawna dan yr haul yn ystod dyddiau ei fywyd, a roddwyd iddo gan Dduw; dyna yw ei dynged.