Ecclesiastes 5:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na ad i'th enau beri i'th gnawd bechu; ac na ddywed gerbron yr angel, Amryfusedd fu: paham y digiai DUW wrth dy leferydd, a difetha gwaith dy ddwylo?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Paid gadael i dy eiriau wneud i ti bechu, ac wedyn ceisio dadlau o flaen yr offeiriad, “camgymeriad oedd e!” Paid digio Duw, a gwneud iddo ddinistrio popeth rwyt wedi gweithio amdano!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Paid gadael i'th enau dy arwain i bechu, a phaid dweud o flaen y cennad, "Camgymeriad oedd hyn." Pam y dylai Duw gasu dy ymadrodd, a difa gwaith dy ddwylo?