Ecclesiastes 6:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gŵr y rhoddodd DUW iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisiau dim i'w enaid a'r a ddymunai; a DUW heb roi gallu iddo i fwyta ohoni, ond estron a'i bwyty. Dyma wagedd, ac y mae yn ofid blin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Duw weithiau yn rhoi cymaint o arian, eiddo a chyfoeth i berson nes bod ganddo bopeth mae arno ei angen a'i eisiau. Ond wedyn dydy Duw ddim yn rhoi'r gallu iddo fwynhau'r cwbl! Yn lle hynny mae rhywun arall yn cael ei fwynhau. Does dim sens i'r peth! Mae'n ofnadwy!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
un wedi cael cyfoeth, meddiannau ac anrhydedd gan Dduw, heb fod yn brin o ddim a ddymunai, ac eto heb gael gan Dduw y gallu i'w mwynhau, ond dieithryn yn hytrach yn cael mwynhad ohonynt. Y mae hyn yn wagedd ac yn gystudd blin.