Ecclesiastes 6:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir â daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hyd yn oed petai rhywun yn cael cant o blant ac yn byw i oedran mawr — sdim ots faint o flynyddoedd! Gallai fyw am byth! Os nad ydy e'n cael mwynhau ei lwyddiant, mae babi sy'n cael ei eni'n farw yn well ei fyd na rhywun felly!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pe byddai rhywun yn rhiant i gant o blant, yn byw am flynyddoedd lawer ac yn cael oes hir, ond heb allu mwynhau daioni bywyd na chael ei gladdu, yna dywedaf ei bod yn well ar yr erthyl nag arno ef.