Ecclesiastes 8:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy sydd debyg i'r doeth? a phwy a fedr ddeongl peth? doethineb gŵr a lewyrcha ei wyneb, a nerth ei wyneb ef a newidir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy sy'n ddoeth go iawn? Pwy sy'n gallu esbonio pethau? “Mae doethineb rhywun yn gwneud i'w wyneb oleuo, Ac mae'r olwg galed ar ei wyneb yn diflannu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy sydd fel y doeth? Pwy sy'n deall ystyr pethau? Y mae doethineb yn gwneud i wyneb rhywun ddisgleirio, ac yn newid caledwch ei drem.