Ecclesiastes 8:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna mi a ganmolais lawenydd, am nad oes dim well i ddyn dan haul, na bwyta ac yfed, a bod yn llawen: canys hynny a lŷn wrth ddyn o'i lafur, ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes DUW iddo dan yr haul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i'n argymell y dylid mwynhau bywyd. Y peth gorau all rhywun ei wneud ar y ddaear yma ydy bwyta, yfed a mwynhau ei hun. Mae'r pleserau yma yn rhywbeth mae Duw yn eu rhoi iddo ochr yn ochr â'i holl waith caled yn ystod ei fywyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn canmol llawenydd, gan mai'r unig beth da i bawb dan yr haul yw bwyta ac yfed a bod yn llawen; oherwydd fe erys hyn gyda hwy pan y maent yn llafurio yn ystod y dyddiau a rydd Duw iddynt dan yr haul.