Ecclesiastes 8:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna mi a edrychais ar holl waith DUW, na ddichon dyn ddeall y gwaith a wneir dan haul: oblegid er i ddyn lafurio i geisio, eto nis caiff; ie, pe meddyliai y doeth fynnu gwybod, eto ni allai efe gael hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac ystyried popeth mae Duw wedi ei wneud. Y gwir ydy does neb yn deall popeth sy'n digwydd yn y byd. Sdim ots pa mor galed mae pobl yn trïo, does neb yn deall go iawn. Hyd yn oed os oes rhai pobl glyfar yn honni eu bod nhw'n gwybod, dŷn nhw ddim wir yn deall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna gwelais y cyfan a wnaeth Duw. Eto nid oes neb yn gallu dirnad yr hyn a wneir dan yr haul. Er iddo ymdrechu i chwilio, nid yw'n dirnad; ac er i'r doeth feddwl ei fod yn deall, nid yw yntau'n dirnad.