Ecclesiastes 8:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyn oll a welais i, a gosodais fy nghalon ar bob gorchwyl a wneir dan haul: y mae amser pan arglwyddiaetha dyn ar ddyn er drwg iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i mi fynd ati o ddifrif i feddwl am bopeth sy'n digwydd yn y byd, dw i wedi sylweddoli hyn: mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais hyn i gyd wrth imi sylwi ar yr hyn a ddigwydd dan yr haul, pan fydd rhywun yn arglwyddiaethu ar ei gymrodyr i beri niwed iddynt.