Ecclesiastes 9:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er hyn oll mi a ystyriais yn fy nghalon, i ddangos hyn oll; bod y cyfiawn, a'r doethion, a'u gweithredoedd, yn llaw DUW: ni ŵyr dyn gariad, neu gas, wrth yr hyn oll sydd o'u blaen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ystyriais y cwbl yn fanwl, i geisio deall trefn popeth. A dod i'r casgliad fod y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn (y rhai doeth a'r cwbl maen nhw'n ei wneud) yn llaw Duw. Fyddan nhw'n cael eu caru neu eu casáu? Does neb yn gwybod beth sydd o'u blaenau nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ystyriais hyn i gyd, a chanfod bod y rhai cyfiawn a doeth 'u gweithredoedd yn llaw Duw, ac na u373?yr neb prun ai cariad ai casineb sy'n ei aros.