Ecclesiastes 9:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr un peth a ddamwain i bawb fel ei gilydd: yr un peth a ddamwain i'r cyfiawn, ac i'r annuwiol; i'r da ac i'r glân, ac i'r aflan; i'r neb a abertha, ac i'r neb nid abertha: fel y mae y da, felly y mae y pechadur; a'r neb a dyngo, fel y neb a ofno dyngu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A'r un dynged sy'n disgwyl pawb: y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn, a'r rhai drwg, y rhai sy'n barod i addoli, a'r rhai sydd ddim; yr un sy'n cyflwyno aberth i Dduw, a'r un sydd ddim yn aberthu. Mae'r un peth yn digwydd i'r bobl sy'n plesio Duw ac i'r rhai sydd ddim; i'r un sy'n tyngu llw i Dduw, a'r un sy'n gwrthod gwneud hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr un peth sy'n digwydd i bawb i'r cyfiawn a'r drygionus, i'r da a'r drwg, i'r gln a'r aflan, i'r un sy'n aberthu a'r un nad yw'n aberthu. Y mae'r daionus a'r pechadur fel ei gilydd, a'r un sy'n tyngu llw fel yr un sy'n ofni gwneud hynny.