Ecclesiastes 9:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma ddrwg ymysg yr holl bethau a wneir dan haul; sef bod yr un diben i bawb: hefyd calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni, ac ynfydrwydd sydd yn eu calon tra fyddant fyw, ac ar ôl hynny y maent yn myned at y meirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna sydd mor annheg am yr hyn sy'n digwydd yn y byd: yr un dynged sy'n wynebu pawb! Mae pawb fel petaen nhw am wneud drwg; mae'r ffordd maen nhw'n byw yn wallgof! A beth sy'n dod wedyn? — marwolaeth!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma sy'n ddrwg yn y cyfan a ddigwydd dan yr haul: mai'r un peth yw tynged pawb. Y mae calon pobl yn llawn drygioni, a ffolineb yn eu calonnau ar hyd eu bywyd, ac yna y maent yn marw.