Ephesians 1:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yn yr hwy hefyt y gobeitheso‐chvvitheu gwedy ywch glywed gair y gwirionedd, ’sef Euangel ein ieched vvrieth chwi, yn yr hon hefyt gwedy ywch gredu, ich in seliwyt ac Yspryt glan y gaddewit,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn yr hwn chwychwi hefyd, wedi clywed Gair y gwirionedd, Efengyl eich iachawdwriaeth, ïe, yn yr Hwn hefyd, wedi credu o honoch, y’ch seliwyd ag Yspryd Glân yr addewid,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn hwn chwithau hefyd, wedi clywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth, a chredu ynddo hefyd, a seliwyd ag Ysbryd Glân yr addewid,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr hwn y gobeithiasoch chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth: yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, y'ch seliwyd trwy Lân Ysbryd yr addewid;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac wedyn chi sydd ddim yn Iddewon hefyd — cawsoch chithau eich derbyn i berthynas â'r Meseia ar ôl i chi glywed y gwir, sef y newyddion da sy'n eich achub chi. Wrth ddod i gredu ynddo cawsoch eich marcio gyda sêl sy'n dangos eich bod yn perthyn iddo, a'r sêl hwnnw ydy'r Ysbryd Glân oedd wedi ei addo i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chwithau, wedi ichwi glywed gair y gwirionedd, Efengyl eich iachawdwriaeth, ac wedi ichwi gredu ynddo, gosodwyd arnoch yng Nghrist sl yr Ysbryd Gln, yr hwn oedd wedi ei addo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn yr hwn chwithau hefyd, wedi clywed gair y gwirionedd, Efengyl eich iachawdwriaeth, — yn yr hwn, wedi credu o honoch hefyd, y'ch seliwyd âg Yspryd Glân yr Addewid,