Ephesians 1:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr hwn yw ernes ein etiveddiaeth, hyd brynedigeth y meddiant a bvvrcasvvyt er moliant y ’ogoniant ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Hwn yw ernes ein hetifeddiaeth, hyd brynedigaeth Ei berchennogaeth, i fawl Ei ogoniant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
sef ernes ein hetifeddiaeth ni ar gyfer rhyddhad yr eiddo, er mawl ei ogoniant ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr Ysbryd ydy'r blaendal sy'n gwarantu'r ffaith bod lle wedi ei gadw ar ein cyfer ni. Yn y diwedd byddwn yn cael ein gollwng yn rhydd i'w feddiannu'n llawn. Rheswm arall i'w foli am ei fod mor wych!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr Ysbryd hwn yw'r ernes o'n hetifeddiaeth, nes ein prynu'n rhydd i'w meddiannu'n llawn, er clod i ogoniant Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth hyd brynedigaeth ei berchenogaeth, i fawl ei ogoniant.