Ephesians 1:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’r ’oleuo llygait eich dyall val y gwypoch pa vn yw gobaith y alwedigeth ef, a’ pha vn yvv golud y ’ogoneddus etiueddiaeth ef yn y Sain c t æ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wedi eich goleuo o ran llygaid eich calon er mwyn gwybod o honoch pa beth yw gobaith Ei alwedigaeth, pa beth yw golud gogoniant Ei etifeddiaeth yn y saint,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
llygaid eich calon wedi eu goleuo hyd oni wypoch beth yw gobaith ei alwad ef, beth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi goleuo llygaid eich meddyliau; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gweddïo y daw'r cwbl yn olau i chi. Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydy'r gobaith sydd ganddo ar eich cyfer, a gweld mor wych ydy'r lle bendigedig sydd ganddo i'w bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydded iddo oleuo llygaid eich deall, a'ch dwyn i wybod beth yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn ei alwad, beth yw cyfoeth y gogoniant sydd ar gael yn yr etifeddiaeth y mae'n ei rhoi i chwi ymhlith y saint,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
wedi eich goleuo o ran llygaid eich calon, fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, beth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth yn y saint,