Ephesians 1:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr hynn a weithiawð ef yn‐Christ, pan y cyfodawdd ef o veirw, ac e dodawdd ar ei ddeheulaw yn y nefoeð,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hon a weithredodd Efe yng Nghrist, gan Ei gyfodi Ef o feirw a pheri Iddo eistedd ar Ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
[yr egni] a ddangosodd yn y Crist wrth ei gyfodi ef o feirw a’i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hon a weithredodd efe yng Nghrist, pan ei cyfododd ef o feirw, ac a'i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
wnaeth godi'r Meseia yn ôl yn fyw a'i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
y grymuster hwnnw a gyflawnodd yng ngrym ei nerth yng Nghrist pan gyfododd ef oddi wrth y meirw, a'i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn a weithredodd Efe yng Nghrist, gan ei gyfodi o feirw a'i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd,