Ephesians 1:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
tragoruwch oll llywodraeth, a’ meddiant, a’ gallu, ac Arglwyddiaeth, a’ phop Enw, a’r a enwir, nyd yn y byt hwn yn vnic, anyd hefyt yn yr hwn ’sy ar ddyvot,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
goruwch pob llywodraeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn ar fedr dyfod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
goruwch pob llywodraeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn y byd a ddaw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Goruwch pob tywysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n llawer uwch nag unrhyw un arall sy'n teyrnasu neu'n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy'n bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo — yn y byd yma na'r byd sydd i ddod!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ymhell uwchlaw pob tywysogaeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob teitl a geir, nid yn unig yn yr oes bresennol, ond hefyd yn yr oes sydd i ddod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
goruwch pob llywodraeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw;